Cofrestru Dros Dro  Temporary Registration

Os byddwch yn sâl tra byddwch oddi cartref neu os nad ydych wedi cofrestru â meddyg ond bod angen i chi weld un, gallwch gael triniaeth frys gan y feddygfa leol am 14 niwrnod. Ar ôl 14 niwrnod, bydd angen i chi gofrestru fel claf dros dro neu glaf parhaol.

Gallwch fod yn gofrestredig fel claf dros dro am hyd at dri mis. Bydd hyn yn caniatáu i chi fod ar restr y practis lleol ac i barhau i fod yn glaf i’ch meddyg teulu parhaol. Ar ôl tri mis, bydd angen i chi ailgofrestru fel claf dros dro neu gofrestru â’r practis hwnnw’n barhaol.

 

I gofrestru fel claf dros dro, y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â’r practis lleol rydych yn awyddus i’w ddefnyddio. Nid oes rhaid i bractisau eich derbyn fel claf dros dro ond mae rhwymedigaeth arnynt i gynnig triniaeth frys. Ni allwch gofrestru fel claf dros dro mewn practis yn y dref neu yn yr ardal lle rydych eisoes yn gofrestredig.

If you are ill while away from home or if you are not registered with a doctor but need to see one you can receive emergency treatment from the local GP practice for 14 days. After 14 days you will need to register as a temporary or permanent patient.

You can be registered as a temporary patient for up to three months. This will allow you to be on the local practice list and still remain a patient of your permanent GP. After three months you will have to re-register as a temporary patient or permanently register with that practice.

To register as a temporary patient simply contact the local practice you wish to use. Practices do not have to accept you as a temporary patient although they do have an obligation to offer emergency treatment. You cannot register as a temporary patient at a practice in the town or area where you are already registered.

pdf  Lawrlwythwch y Ffurflen Gofrestru i Breswylydd Dros Dro       Download the Temporary Resident Registration Form

NHS WalesThis site is brought to you by My Surgery Website